Cyrains
| Math | Rhesin |
|---|---|
| Deunydd | Black Corinth |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/019f1p |
Rhesins o'r teulu grawnwin bach, melys, di-had "Corinth Du" (Vitis vinifera) yw cyrains.[1][2] Fe'i gelwir hefyd yn "cyrains Zante"[angen ffynhonnell], "rhesins Corinth"[angen ffynhonnell], "rhesins Corinthaidd"[angen ffynhonnell] neu, yn amlach nag heb, "gyrens".
Yr enw
[golygu | golygu cod]Daw'r enw o'r enw Ffrangeg raisins de Corinthe (grawnwin dinas Corinth, Gwlad Groeg)[3] ac ynys Zakynthos (Zante) ym Môr Ionia, a oedd ar un adeg yn brif gynhyrchydd ac allforiwr. Nid yw'n gysylltiedig â chyrains duon, cyrains cochion na chyrains gwynion, sef aeron llwyni yn y genws Ribes nad ydynt fel arfer yn cael eu paratoi ar ffurf sych.
Ceir y cofnod cynharaf o'r gair "cyrains" yn y Gymraeg mewn cerdd gan Lewis Glyn Cothi (1455-85);"Rhessing, cwres a censwn / Rhost, nid er bos, adar y bwn".[4]
Dryswch
[golygu | golygu cod]Mae rhesins, syltanas a chyrains i gyd yn wahanol fathau o rawnwin sych. Fodd bynnag, gall gwahaniaethu rhwng y tri fod yn ddryslyd, yn enwedig o ran rhesins a syltanas gan fod eu diffiniadau'n amrywio mewn gwahanol rannau o'r byd. Yn yr Unol Daleithiau, defnyddir y term "raisin" ar resins a syltanas. I wahaniaethu'r ddau, cyfeirir at syltanas fel rhesins "aur". Yn Saesneg Lloegr ac mewn mannau eraill, mae rhesins a syltanas yn cael eu gwahaniaethu yn ôl y math o rawnwin a'r dull prosesu a ddefnyddir.[angen ffynhonnell]
Mae cyrains yn cael eu sychu am hyd at dair wythnos.
Oherwydd eu maint bach, mae ganddynt flas melys, sur a dwys ac maent yn ychwanegu gwead a melyster at seigiau melys a sawrus.[5]
Maeth
[golygu | golygu cod]
Yn draddodiadol, caiff cyrains eu tynnu oddi ar y coesyn ac yna eu sychu yn y cysgod. Mae sychu ag aer wedi'i gynhesu hefyd yn arferol. Mae'r ffrwythau'n fach, gyda chroen tenau, a heb hadau. Mae eu lliw yn amrywio o las-ddu i ddu. Maent yn cynnwys tua 77% o siwgr, 2.8% o brotein, ac 1.5% o asid ffrwythau. Fe'u defnyddir fel arfer wrth baratoi nwyddau wedi'u pobi, melysion, a phwdinau.
Yn wahanol i gyrens duon, nid yw cyrains Zante yn ffynhonnell sylweddol o fitamin C.[6]
Defnydd coginio
[golygu | golygu cod]Mae cyrains yn boblogaidd iawn mewn cacennau gan gynnwys cogyddiaeth Gymreig mewn danteithion. Maent yn un o gynhwysion pice ar y maen a bara brith.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Viticultural Information". University of California: UC Integrated Viticulture. Zante Currant. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2015. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2012.
- ↑ Greece: Royal Decree of 30.12.1955 regarding control measures on the collection, dehydration, packaging, vending and protection of quality of Corinthian dried raisins (currants), http://faolex.fao.org/cgi-bin/faolex.exe?rec_id=127670&database=faolex&search_type=link&table=result&lang=eng&format_name=@ERALL, adalwyd 28 Ebrill 2014
- ↑ Barnhart, Clarence L.; Barnhart, Robert K., gol. (1987) [1963]. The World Book Dictionary. A–K. Doubleday & Company. t. 509.
- ↑ "Cyrains". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Awst 2026.
- ↑ "Raisins vs. Sultanas vs. Currants: What's the Difference?". HealthLine. Cyrchwyd 12 Awst 2026.
- ↑ "USDA Nutrient Database". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2015. Cyrchwyd 5 Mai 2009.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- The Real Difference Between Currants and Raisins Fideo ar sianel Kitchen Conservatory, 2018