FileZilla
Gwedd
| Datblygwr | Tim Kosse |
|---|---|
| Rhyddhad cychwynnol | 22 Mehefin 2001 |
| Iaith raglennu | C++, wxWidgets |
| system weithredu | Aml-blatfform |
| Llwyfan | Windows, Linux, OS X |
| Maint | 6.08 MB |
| Cyfieithu parod | Nifer o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg |
| Math | cleient FTP |
| Trwydded | Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU Fersiwn 2 |
| Gwefan | filezilla-project.org |
Mae FileZilla yn feddalwedd côd agored ac am ddim a grewyd i drosglwyddo ffeiliau rhwng dyfeisiau drwy FTP (File Transfer Protocol). Mae ar gael ar gyfer Windows, Linux ac OS X gyda rhyngwyneb Cymraeg.[1][2]
Un o brif ddefnyddiau FileZilla yw fel protocol i drosglwyddo ffeiliau gweinyddwr gwefan dros y rhyngrwyd rhwng dyfais leol a'r cyfrifiadur pell sy'n weinydd y wefan. Mae rhai o'r cwmnïau gwesteia gwefannau mwyaf adnabyddus yn argymell defnyddio FileZilla.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tim Kosse. "Client Download". FileZilla. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.
- ↑ Tim Kosse. "Translations". FileZilla. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.
- ↑ "Bluehost Web Hosting Help". Bluehost. Cyrchwyd 30 Ionawr 2015.