Neidio i'r cynnwys

Frances Harper

Oddi ar Wicipedia
Frances Harper
GanwydFrances Ellen Watkins Edit this on Wikidata
24 Medi 1825 Edit this on Wikidata
Baltimore Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1911, 22 Chwefror 1911 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethnofelydd, bardd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, darlithydd, awdur storiau byrion, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Adnabyddus amIola Leroy Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland Edit this on Wikidata
llofnod

Ffeminist o'r Unol Daleithiau oedd Frances Harper (24 Medi 1825 - 22 Chwefror 1911) sy'n cael ei hystyried yn: nofelydd, bardd, darlithydd, swffraget ac yn fam i newyddiaduraeth Affricanaidd-Americanaidd.

Ysgrifennai am gaethiwed a diddymiad caethwasiaeth, hawliau dynol ac urddas, hawliau a chydraddoldeb menywod, cyfiawnder hiliol a chymdeithasol, trais yn y lluoedd arfog, hawliau pleidleisio (etholfraint), moesoldeb, hunangymorth hiliol, a chydweithrediad rhwng gwledydd. Roedd hi'n weithgar mewn diwygio cymdeithasol ac roedd yn aelod o Undeb Dirwestol y Cristion Benywaidd, a oedd yn argymell bod y llywodraeth ffederal yn chwarae rhan mewn diwygio a gwella cymdeithas.[1]

Fe'i ganed yn ferch rydd, yn Baltimore, Maryland, Unol Daleithiau America ar 24 Medi 1825; bu farw yn Philadelphia. Yn 67 oed, ysgrifennodd y clasur o nofel Iola Leroy (1892). [2][3][4][5][6][7][8][9]

Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, sef cyfrol o farddoniaeth, pan oedd yn ugain oed, gan ei gwneud yn un o awduron Affro-Americanaidd cyntaf. Yn 1851, gyda William Still, cadeirydd Cymdeithas Diddymu Caethwasiaeth Pennsylvania, cynorthwyodd llawer o gaethweision a oedd wedi dianc o'u 'perchnogion' i ryddid yng Nghanada. Cychwynodd ei gyrfa fel siaradwr ac ymgyrchydd gwleidyddol, yn syth wedi iddi ymuno â Chymdeithas America yn Erbyn Caethwasiaeth yn 1853.

Y llyfr a werthodd fwya ganddi oedd Poems on Miscellaneous Subjects (1854) a'i stori fer "Two Offers" oedd y gyntaf gan fenyw ddu.

Sefydlodd, cefnogodd a chynhaliodd Harper swyddi mewn sawl sefydliad cenedlaethol blaengar. Yn 1883 daeth yn uwcharolygydd yn yr Adran Lliw o Undeb Dirwestol Cristnogol Menywod Philadelphia a Pennsylvania. Yn 1894 cyd-sefydlodd Cymdeithas Genedlaethol y Menywod Lliw (*National Association of Colored Women) a bu'n is-lywydd o'r gymdeithas honno.

Bu farw Harper yn 85 oed ar 22 Chwefror 1911, naw mlynedd cyn i fenywod gael yr hawl i bleidleisio.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Clybiau Merched Duon am rai blynyddoedd. [10][11][12]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland (1987)[13] .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jackson, Tricia Williams (2016). Women in Black History: Stories of Courage, Faith, and Resilience. Revell. tt. 58–65.
  2. Cyffredinol: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 12136300h, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 (yn es) datos.bne.es, dynodwr BNE (datos.BNE.es) XX4740418, Wikidata Q50358336, http://datos.bne.es, adalwyd 17 Chwefror 2024
  3. Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702. Yolanda W. Page (2007) (yn en), Encyclopedia of African American Women Writers, Westport: Greenwood Publishing Group, OL9393971W, Wikidata Q87409368
  4. Rhyw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 12136300h, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 Yolanda W. Page (2007) (yn en), Encyclopedia of African American Women Writers, Westport: Greenwood Publishing Group, OL9393971W, Wikidata Q87409368
  5. Dyddiad geni: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 12136300h, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 "Frances Harper". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances Ellen Harper". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances E. W. Harper". ISFDB. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances E.W. Harper". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Dyddiad marw: (yn en) Find a Grave, Wikidata Q63056, https://www.findagrave.com/, adalwyd 12 Mehefin 2024 Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 12136300h, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 "Frances Harper". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances Ellen Harper". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances E. W. Harper". ISFDB. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances E.W. Harper". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  7. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 23 Rhagfyr 2014
  8. Man claddu: (yn en) Find a Grave, Wikidata Q63056, https://www.findagrave.com/, adalwyd 12 Mehefin 2024
  9. Grwp ethnig: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702. Suzanne Ellery Chapelle; Glenn O. Phillips (2002). African American Leaders of Maryland (yn Saesneg). Baltimore: Maryland Center for History and Culture. ISBN 978-0-938420-69-9. LCCN 2002071842. OCLC 49903113. OL 3569611M. Wikidata Q67778540. Yolanda W. Page (2007) (yn en), Encyclopedia of African American Women Writers, Westport: Greenwood Publishing Group, OL9393971W, Wikidata Q87409368 Jessie Carney Smith (yn en), Notable Black American Women, Wikidata Q105958972 (yn en) BlackPast.org, Wikidata Q30049687, https://www.blackpast.org Lawson A. Scruggs (1893) (yn en), Women of Distinction, Raleigh: Lawson A. Scruggs, Wikidata Q97672273
  10. Galwedigaeth: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 490, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 490, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Lina Mainiero; Langdon Lynne Faust (1979) (yn en), American Women Writers, Wikidata Q106787730 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 490, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 490, OL2727330W, Wikidata Q18328141 https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
  11. Aelodaeth: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 490, OL2727330W, Wikidata Q18328141
  12. Anrhydeddau: https://msa.maryland.gov/msa/educ/exhibits/womenshall/html/whflist.html.
  13. https://msa.maryland.gov/msa/educ/exhibits/womenshall/html/whflist.html.