HTC
Gwedd
| Enghraifft o: | busnes, menter, cwmni cyhoeddus, brand |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 15 Mai 1997, 1997 |
| Perchennog | VIA Technologies |
| Sylfaenydd | Peter Chou, Cher Wang |
| Aelod o'r canlynol | Wi-Fi Alliance, SD Association |
| Gweithwyr | 17,280 |
| Isgwmni/au | Beats Electronics, S3 Graphics |
| Ffurf gyfreithiol | cwmni cyd-stoc |
| Cynnyrch | ffôn clyfar, tabled cyfrifiadurol |
| Pencadlys | Dinas Newydd Taipei |
| Gwladwriaeth | Taiwan |
| Gwefan | http://www.htc.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/069b85 |
| Quora | Htc-corporation |
Gwneuthurwr ffonau clyfar a thabledi o Daiwan yw HTC Corporation (Tsieinëeg: 宏達國際電子股份有限公司, Pinyin: Hóngdá Guójì Diànzǐ Gǔfèn Yǒuxiàn Gōngsī), a adnabuwyd gynt fel High Tech Computer Corporation,[1] Dechreuodd y cwmni drwy gynhyrchu ffonau'n defnyddio system weithredu Windows Mobile Microsoft, ond yn 2009, dechreuodd symud oddi wrth Windows Mobile i greu dyfeisiadau ar sail system weithredu Android, ac yn 2010 dechreuont gynhyrchu ffôn ar sail Windows Phone hefyd.

Mae HTC yn aelod o'r Open Handset Alliance, grŵp o wneuthurwyr setiau llaw a gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol sy'n cysegru eu hunain tuag at ddatblygu'r platfform Android ar gyfer dyfeisiau symudol.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ HTC Corporation: Snapshot. Bloomberg Business Week. Adalwyd ar 2011-01-06.
- ↑ Google unveils cell phone software and alliance. CNET News (5 Tachwedd 2007). Adalwyd ar 8 Gorffennaf 2010.